Transport for Wales

Contact: Deborah Symons
Region: Wales
Location: Pontypridd
Category: Transport planning
Closes: 24 May 2026
Salary: £50-75K
More info:

Senior Transport Planner

Job Description

Salary up to £55,000

Location: Pontypridd

The Role

To provide technical advice and strategic guidance on transport related matters including Business Case preparation and appraisal to our clients across a range of projects.

 

Role responsibilities

  • Lead the provision of transport policy advice and guidance by providing documentation, appraisals and preparing business cases to enable Transport for Wales (TfW) to provide Welsh Government and Local Authorities expert advice.
  • Oversee a range of projects concurrently by providing the technical expertise and leadership to the project team and the supply chain to meet client requirements.
  • Maintain consistency and demonstrate value for money by providing technical rigour and challenge to improve the standards of work undertaken internally and with the supply chain to ensuring high standards in transport planning.
  • Support the SDPM, programme and project managers by providing technical expertise to enable the scope, progress and review of a range of projects concurrently whilst meeting timescales and delivering projects to quality, budget and client requirements.

 

Who we're looking for

  • A Masters degree in a relevant area such as Transport Planning, Urban Transport, Transport Planning and Engineering or evidence of equivalent experience working in a Transport Planning role.
  • Professionally Chartered or working toward Chartered Transport Planner (e.g. TPP, ICE, IHT, CILT or similar).
  • Demonstrable experience in the development of business cases, especially to Outline Business Case.
  • Evidence of technical leadership in one or more areas of transport planning and/ or business case development.
  • Demonstrable experience of delivering a range of transport planning projects at differing stages of transport project lifecycle.

 

Welsh Language Skills

While not essential for this role, Welsh language skills would make a great addition to your application.

TfW support anyone who wants to learn Welsh or improve their skills. We offer online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses.

 

Equal Opportunities

We're changing the way the transport industry looks. By celebrating and embracing differences, we're building a workforce that represents Wales. We need talented people from all backgrounds and cultures to bring their perspectives and experiences. Diverse teams make better decisions and drive innovation. Join us in transforming the way Wales travels."

 

Who we are 

Transport for Wales is changing the way Wales travels, making sustainable transport the first choice. We're building a multimodal integrated transport network called the T Network, making it easier for people to travel by train, bus, walking, wheeling and cycling.

 

Next steps

See attached Job Description for further details and how to apply. If you want to find out more about what we're doing in Wales, see our Annual Report.

We're a Disability Confident Leader. Let us know about  any reasonable adjustments you may need in the recruitment process and as part of the role if you are successful.

This advert will close at 23:59 on the day of the application closing date stated above. However, we reserve the right to close this vacancy early if we receive enough applications. We encourage you to submit your application as early as possible.

 

 

Y Swydd

Darparu cyngor technegol ac arweiniad strategol ynglŷn â materion sy'n ymwneud â thrafnidiaeth, gan gynnwys paratoi Achos Busnes ac arfarniad i'n cleientiaid ar draws ystod o brosiectau.

Cyfrifoldebau'r swydd

  • Arwain y gwaith o ddarparu cyngor ac arweiniad ar bolisi trafnidiaeth drwy ddarparu dogfennau ac arfarniadau a pharatoi achosion busnes er mwyn galluogi Trafnidiaeth Cymru (TrC) i roi cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol.
  • Goruchwylio amrywiaeth o brosiectau ar yr un pryd drwy ddarparu arbenigedd technegol ac arweinyddiaeth i dîm y prosiect a'r gadwyn gyflenwi er mwyn bodloni gofynion cleientiaid.
  • Cynnal cysondeb a dangos gwerth am arian drwy ddarparu trylwyredd technegol ac ymdrechu i wella safonau'r gwaith a wneir yn fewnol a gyda'r gadwyn gyflenwi i sicrhau safonau uchel wrth gynllunio trafnidiaeth.
  • Cefnogi'r Rheolwr Rhaglen Datblygu Strategol, rheolwyr rhaglenni a rheolwyr prosiectau drwy ddarparu arbenigedd technegol i alluogi cwmpasu, nodi cynnydd ac adolygu amrywiaeth o brosiectau ar yr un pryd, gan fodloni amserlenni a chyflawni prosiectau yn unol â gofynion ansawdd, cyllideb a chleientiaid.

 

Am beth rydyn ni'n chwilio

  • Gradd Meistr mewn maes perthnasol fel Cynllunio Trafnidiaeth, Trafnidiaeth Drefol, Cynllunio Trafnidiaeth a Pheirianneg neu dystiolaeth o brofiad cyfatebol yn gweithio mewn rôl Cynllunio Trafnidiaeth.
  • Aelod Siartredig o gorff proffesiynol neu'n gweithio at fod yn Gynllunydd Trafnidiaeth Siartredig (e.e. TPP, ICE, IHT, CILT neu gyfwerth).
  • Profiad amlwg o ddatblygu achosion busnes, yn enwedig i Achos Busnes Amlinellol.
  • Tystiolaeth o arweinyddiaeth dechnegol mewn un neu ragor o feysydd cynllunio trafnidiaeth a/neu ddatblygu achos busnes.
  • Profiad amlwg o gyflawni amrywiaeth o brosiectau cynllunio trafnidiaeth ar wahanol gamau yng nghylch bywyd y prosiect trafnidiaeth.

 

Sgiliau Cymraeg

 

Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.

Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.

 

Cyfle Cyfartal

Rydyn ni'n newid y ffordd y mae'r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni'n datblygu gweithlu sy'n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru'n teithio."

 

Pwy ydyn ni 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru'n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw'r dewis cyntaf. Rydyn ni'n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o'r enw Rhwydwaith T, i'w gwneud hi'n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.

 

Y camau nesaf

Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi'n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.

Rydyn ni'n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o'r swydd os byddwch chi'n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni'n cadw'r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.

 

How to Apply

Use this link to apply https://jobs.tfw.wales/jobs/vacancy/631/description

Or, to Transport for Wales careers page at tfw.wales